Cofio'r bocsiwr Tommy Farr

Mae'n siŵr y bydd unrhyw un sy'n dilyn y gamp bocsio yn ymwybodol o Tommy Farr.

Mae'n un o arwyr cymoedd y de.

Union gan mlynedd yn ôl, ar Fawrth 12 1913 y cafodd y bocsiwr o Gwm Clydach ei eni.

Mae'r "Tonypandy Terror" yn fwya' enwog mae'n siŵr, am yr ornest honno yn erbyn Joe Louis yn 1937.

Er iddo golli ar bwyntiau fe sicrhaodd ei le yn y llyfrau hanes wedi hynny.

Catrin Heledd sy'n edrych yn ôl ar ei fywyd yn y sgwâr bocsio a thu hwnt.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd