Iaith: 'Angen corff annibynnol newydd'
Mae pennaeth Adran Gynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin, wedi dweud wrth BBC Cymru bod angen corff annibynnol newydd i gynghori awdurdodau lleol ar geisiadau cynllunio pan mae'r effaith ar y Gymraeg yn fater dadleuol. Mi ddaw sylwadau Eifion Bowen yn dilyn y ffrae am gais cynllunio i godi dros 280 o dai newydd yn ardal Rhydaman - sy'n destun dadlau mawr yn lleol. Yr adroddiad arbennig yma gan Aled Scourfield.