Anelu i gynyddu cylchrediad Y Cyfnod

Mewn erthygl yn rhifyn diweddara wythnosolyn Y Cyfnod mae'r newyddiadurwr Huw Edwards yn dweud bod hi'n destun llawenydd bod y papur o ardal Y Bala wedi'i atgyfodi.

Ar ôl wythnos bryderus, mi gafodd y papur ei achub gan berchennog a golygydd newydd. Wrth ddosbarthu ei rhifyn cyntaf ddydd Mercher mi wnaeth Mari Williams gydnabod y bydd yn her ariannol, ond mae hi'n anelu i gynyddu cylchrediad Y Cyfnod, a hefyd ei chwaer-bapur - y Corwen Times.