Mantell Aur Yr Wyddgrug
Yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain y mae Mantell Aur Yr Wyddgrug yn cael ei harddangos fel arfer.
Cafodd y fantell o'r oes efydd ei darganfod ar gaeau yn Yr Wyddgrug yn 1833.
Ond am bum wythnos o ddechrau Gorffennaf, bydd y fantell yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd - ac yna yn Amgueddfa Wrecsam tua diwedd wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych ym Mis Awst.
Fel y sonir yn adroddiad Rhian Price, mae yna edrych ymlaen at ei gweld - ond siom hefyd nad oes posib ei harddangos yn Yr Wyddgrug ei hun.