Uno i wrthwynebu fferm wynt Môn

Mae chwech o gynghorau cymuned yng ngogledd ddwyrain Ynys Môn wedi uno i wrthwynebu cynllun i adeiladu fferm wynt enfawr yn y môr.

Bwriad cwmni Celtic Array yw adeiladu fferm Rhiannon rhyw 20 cilometr oddi ar arfordir Môn, er mwyn cynhyrchu trydan ar gyfer 1.7 miliwn o gartrefi. Byddai'n golygu codi hyd at 440 o dyrbinau.

Ond mae pryder y byddai'r cynllun yn cael effaith wael ar Fôn.

Adroddiad Aled Hughes.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd