Meic Stevens: 'Mae bywyd yn bwysicach nawr'
Mae Meic Stevens wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am ei brofiad yn dygymod gyda chanser.
Mewn cyfweliad arbennig gyda rhaglen y Post Cyntaf mae'n dweud bod y profiad wedi cael effaith fawr arno a bod bywyd yn "llawer fwy pwysig" iddo bellach o ganlyniad.
Mae'r canwr bellach wedi cael clywed bod ei brognosis yn edrych yn dda ond nad oes sicrwydd na fydd y salwch yn dod yn ôl yn y dyfodol.
Yn ystod y cyfweliad mae Meic Stevens - sy'n cael ei ystyried yn un o'r cerddorion gorau mae Cymru erioed wedi ei weld - yn disgrifio'r driniaeth roedd yn rhaid iddo ei dderbyn.
Wedi i ymweliad â'r deintydd ddod a'r broblem i'r fei, fe aeth Mr Stevens at feddyg wnaeth wneud diagnosis o ganser y gwddf.
Yn siarad gyda Sian Elin Dafydd, dywedodd Mr Stevens: "Cyn y driniaeth fe wnaethon nhw esbonio a gofyn i fi os o'n i eisiau cael y driniaeth achos wedon nhw bo' fi ddim yn gallu cal llawdriniaeth achos byddwn i'n colli tri chwarter o'n nhafod i.
"O'n nhw'n gwybod bod i'n canu o'n n'w ddim eisiau 'neud hynny so natho nhw penderfynu roi cemotherapi i fi i gwasgu'r canser lawr a wedyn radiology i lladd y canser - dyna be 'natho nhw."
Gan ganmol y gofal a dderbyniodd yn Ysbyty Felindre yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd dywedodd bod y staff yn "bobl dda diolch i dduw, pobl proffesiynol", a datgelodd Mr Stevens eu bod yn parhau i boeni amdano gan ei fod yn cael trafferth bwyta.
"Erbyn hyn wrth gwrs do'n i ddim yn gallu bwyta so o'n i'n byw ar bwyd babis hynny yw fel y stwff mewn boteli o'n nhw'n roi i fi, erbyn hyn hefyd odd dim chwant bwyd arna fi, doedd dim eisiau bwyd arna fi.
"Ond wrth gwrs ro'n nhw'n poeni fel y diawl, mynnu bofi'n cael y bwyd a bwyta a cal y nourishment o'n nhw eisiau fi gal.
"Sa'i wedi cael bwyd go iawn ers y Nadolig diwethaf."
Pan ofynnwyd iddo os wnaeth y driniaeth newid y ffordd roedd e'n gweld y byd, dywedodd Mr Stevens mai'r gwerthfawrogiad o amser oedd y peth mwyaf.
"Amser i ddechrau. Amser yw rhywbeth wyt ti ddim yn gallu brynu. Wrth gwrs os oes amser 'da ti, ti ddim ishe bod mewn poen achos ma' hwnna yn anghysurus a ti ddim yn gallu neud llawer o ddim pan ti mewn poen fel ma' lawer o bobl efo'r canser yma.
"Ma' rhyw rai... weles i bobl yn marw. O'n i yn y gwely gyda tri o bobl mewn ystafell a'r peiriant 'mlaen drwy'r nos.
"Gweld yn y bore bod gwely gwag yn y gornel..."
Ond er hynny, nid oedd y profiad yn un wnaeth godi ofn arno.
"O'n i ddim yn ofni, o'dd ddim ofan arnaf i na ddim byd. Oedd e'n deimlad od odd e fel petai e'n ryw fath o niwsans achos dw i byth wedi bod yn sâl yn fy mywyd.
"Dw i wastad wedi bod yn iach ond ddim wedi gofalu am yr hen gorff, efo'r yfed gormod a ddim wedi bod yn neidio ambyti a neud y pethe dylen ni neud.
"Ond o'n i jest braidd yn cheesed off achos odd lot o bethe 'da fi i neud do'n i ddim yn barod i farw ar hyn o bryd achos o'n i eisiau neud yr hyn a hyn a'r llall..."