Ian Watkins: ymchwiliad yn parhau

Mae cyn ganwr y Lostprophets, Ian Watkins wedi ei ddedfrydu i 35 o flynyddoedd yn y carchar, ar ôl cyfaddef cyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Yn ôl y barnwr yn Llys y Goron Caerdydd, dyma un o'r achosion gwaetha iddo ddod ar eu traws.

Bydd rhaid i'r canwr 36 oed o Bontypridd dreulio 29 mlynedd dan glo.

Mae dwy fam ifanc hefyd wedi'u carcharu ar ôl cyfaddef cynnig eu plant i Watkins er mwyn iddo eu cam-drin.

Adroddiad Alun Thomas.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd