Cytundebau i 'wella safon' gofal
Mi fydd newidiadau radical yn y ffordd mae meddygon teulu yng Nghymru yn cael eu talu yn caniatáu iddyn nhw dreulio mwy o amser yn trin cleifion yn ôl y gweinidog iechyd, Mark Drakeford.
Mae'r cytundeb newydd wedi ei lunio rhwng doctoriaid a Llywodraeth Cymru.
Yn y gorffennol roedd meddygon teulu yn gorfod gwneud dros 900 o asesiadau ar gleifion er mwyn cael rhywfaint o arian. Rwan mae'r asesiadau wedi eu lleihau i 300.
Bu Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke yn holi Dr Phil White o Gymdeithas Feddygol y BMA ynglŷn â'r cytundeb newydd.