Ffrae dros bresgripsiwn uniaith Gymraeg
Mae cwpwl o Wynedd wedi beirniadu archfarchnad Morrisons, ar ôl iddyn nhw wrthod rhoi presgripsiwn i'w mab, a hynny am fod y presgripsiwn yn Gymraeg.
Bu'n rhaid i Aled ac Alys Mann, o'r Felinheli ddychwelyd at y feddygfa i gael presgripsiwn yn Saesneg, cyn gallu cael y feddyginiaeth roedd angen ar eu mab, Harley.
Dyma adroddiad Sion Tecwyn.