Canolfan ailgylchu i gau?
Gall rhan helaeth o ogledd Sir Gaerfyrddin fod heb ganolfan ailgylchu yn y dyfodol.
Mae perchennog y safle presennol yn Llangadog wedi cael gwybod na fydd y cytundeb presennol gyda'r cyngor sir yn cael ei adnewyddu ar ddiwedd mis Mawrth.
Yn ôl Hefin Roberts, gall deg o swyddi yn y ganolfan fod yn y fantol ac mae pryder y bydd mwy o bobl yn tipio gwastraff heb ganiatâd os ydy'r ganolfan yn cau.
O Langadog, adroddiad Aled Scourfield.