Mentrau Iaith: 'Angen newidiadau'
Mae angen newidiadau mawr i'r ffordd mae mentrau iaith yn gweithredu yn ôl adroddiad gafodd ei gomisiynu gan lywodraeth Cymru.
Ymhlith yr argymhellion, mae yna alw am gorff cenedlaethol i gydlynu eu gwaith ac am fwy o gynllunio strategol.
Fe fydd Llywodraeth Cymru'n gwario dros £3,500,000 dros y flwyddyn ariannol nesa'n hyrwyddo'r Gymraeg, ond yn ôl Plaid Cymru fe ddylai'r llywodraeth gynnig mwy o arweiniad.
Adroddiad Aled Huw.