Argymhellion ynni adroddiad Silk
Mae ail adroddiad Comisiwn Silk hefyd yn gwneud argymhellion ym maes ynni - rhai allai effeithio ar benderfyniadau ynglŷn â ffermydd gwynt newydd.
Ar hyn o bryd, mae'r gair olaf ar brosiectau ynni naill ai yng Nghaerdydd neu yn San Steffan yn ôl maint y datblygiad.
Ond yn ôl Silk, fe ddylai grym Llywodraeth Cymru yn y maes gael ei ehangu i gynnwys prosiectau ynni llawer mwy.
Mi fyddai hynny'n cynnwys bron pob cynllun ynni adnewyddol, ond nid gorsafoedd pŵer glo, nwy na niwclear.
Dyma adroddiad Craig Duggan ar Newyddion Naw nos Lun.