Safle glo brig i Nant Llesg?

Dim safle glo brig arall yng Nghwm Rhymni - dyna oedd neges tua dau gant o brotestwyr yng Nghaerffili brynhawn dydd Mawrth. Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor Sir yn ystyried cais gan gwmni Miller Argent i gloddio am lo brig yn ardal Nant Llesg. Ond ma' pobl leol yn poeni am yr effaith bosib ar fusnesau a'r amgylchedd. Adroddiad Huw Foulkes.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd