Cofio Gerallt Lloyd Owen
Yn 69 oed, bu farw'r Prifardd Gerallt Lloyd Owen.
Fe gaiff ei gofio'n bennaf am ysgrifennu cerddi am Gymreictod a chenedlaetholdeb.
Fe enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith am yr awdlau Afon a Cilmeri.
Roedd yn adnabyddus hefyd fel Meuryn Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru, ac Ymryson y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Aled Huw sy'n edrych nol ar ei fywyd a'i gyfraniad.