Ymgyrch i achub Neuadd Buddug

Daeth degau lawer i gyfarfod cyhoeddus yn Y Bala neithiwr i ddangos cefnogaeth i gadw Neuadd Buddug yn y dre yn agored fel bod gan ardal Pum Plwy Penllyn sinema.

Mae Cyngor Gwynedd yn edrych o ddifri ar yr opsiwn i'w chau oherwydd cyflwr yr adeilad a'r angen i fuddsoddi miloedd o bunnoedd i brynu offer darlledu ffilmiau digidol.

Clywodd y cyfarfod na fydd y lle yn cau yn y tymor byr. Gobaith llawer ydi sefydlu cwmni cymunedol i'w chymryd drosodd. Llyr Edwards fu yn y cyfarfod.