Lwmp o saim yn sownd mewn carthffos
Mae gweithwyr yng Nghaerdydd wedi dod o hyd i lwmp o saim sy'n dair troedfedd o led, mewn carthffosydd o dan strydoedd Caerdydd.
Cafodd y talpiau eu ffilmio gan Ddŵr Cymru fel rhan o fideo i godi ymwybyddiaeth o'r angen i gymryd gofal wrth olchi pethau lawr y sinc.
Mae'n debyg mai braster coginio ac olew sydd wedi achosi'r lwmp saim hwn.
Roedd y rhwystr yn y system garthffosiaeth yn waeth oherwydd bod eitemau fel clytiau bach, cewynnau a nwyddau mislif wedi casglu y tu ôl i'r saim.
Mae ymgyrch 'Stop Cyn Creu Bloc' Dŵr Cymru, dolen allanol yn gobeithio addysgu pobl am sut i gael gwared ar ddelweddau fel hyn yn ddiogel.