Hawl i Fyw: Ymgyrch claf canser
Mae dyn o Fangor, sy'n diodde' o ganser y coluddyn, yn dweud y bydd yn rhaid iddo symud i Loegr er mwyn cael triniaeth allai ymestyn ei fywyd.
Mae Irfon Williams, 44, wedi bod yn derbyn triniaeth ers dros flwyddyn, ond gwaethygu mae'r cyflwr.
Rŵan mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwrthod cais i dalu am gyffur y mae tri arbenigwr wedi dweud allai wella ansawdd ei fywyd.
Yn ôl y bwrdd iechyd, dydy'r cyffur ddim wedi cael ei gymeradwyo gan y corff arolygu, NICE, ac maen nhw'n pwyso a mesur pob achos yn unigol.
Ar hyn o bryd, mae'r Gronfa Cyffuriau Canser yn Lloegr yn ariannu'r cyffur cetuximab.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, does dim bwriad cyflwyno cronfa debyg yng Nghymru.
Heno ym Mangor mi fydd 'na gyfarfod er mwyn trafod be ddylid ei wneud nesa', wedi i dros 18,000 o bobl ymuno â grŵp ar wefan cymdeithasol Facebook a bron i 8,000 wedi arwyddo deiseb.
Bu Irfon Williams yn siarad ar Raglen Dylan Jones fore Mawrth.