Cofio trychineb bomiau Bangor
Saithdeg mlynedd yn ôl - yn fuan cyn diwedd yr Ail Ryfel Byd - roedd dinas Bangor yn galaru ar ôl i dri o blant gael eu lladd mewn ffrwydrad.
Roedd criw o fechgyn ifanc wedi mynd ar grwydr i faes ymarfer milwrol ger Abergwyngregyn, gan ddod adref ar y bws gyda saith o fomiau oedd heb ffrwydro.
Dafydd Gwynn fu'n ymchwilio i'r hanes ar ran Newyddion 9.