Cyngerdd Castell Aberteifi yn corddi

Mae ymateb ffyrnig wedi bod i'r newyddion mae grŵp gwerin o Loegr - Bellowhead - fydd y prif atyniad yng nghyngerdd agoriadol Castell Aberteifi.

Mae mudiad o ymgyrchwyr lleol - Cyfeillion yr Arglwydd Rhys - wedi cyhuddo Ymddiriedolaeth Cadwgan sydd wedi llywio'r gwaith o atgyweirio'r castell o wneud penderfyniad "haerllug".

Mae cynlluniau i wahodd gorsaf y beirdd i agoriad y castell ymhen pythefnos wedi eu gollwng yn ogystal. Aled Scourfield sydd wedi bod yn Aberteifi ar ran Newyddion 9.