Sut mae clymbleidio yn dilyn etholiad?
Wrth i'r ymgyrchu barhau, mae'r arolygon barn yn dal i awgrymu na fydd gan yr un blaid fwyafrif clir yn yr etholiad cyffredinol.
Felly clymblaid neu ryw fath o drefniant i rannu grym sy'n edrych fwyaf tebygol ar hyn o bryd, ac mae'n siŵr y bydd y trafodaethau a'r bargeinio'n dechrau o ddifri' yn syth wedi'r etholiad.
Dau sy'n hen gyfarwydd â'r broses o glymbleidio yw cyn brif weinidog Cymru Rhodri Morgan a'i gyn ddirprwy Ieuan Wyn Jones o Blaid Cymru fu'n arwain Cymru ar y cyd rhwng 2007 a 2011.