Bwrdd Iechyd dan fesurau arbennig
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael ei roi dan fesurau arbennig gan y gweinidog iechyd, Mark Drakeford.
Yn ôl y prif weinidog Carwyn Jones, mae pobl y gogledd wedi colli pob hyder yn y bwrdd. Dyma'r tro cyntaf erioed i fwrdd iechyd gael ei osod mewn mesurau arbennig yng Nghymru - ac fe fydd y gweinidog iechyd yn egluro beth yn union mae hynny'n ei olygu mewn datganiad yn y senedd ddydd Mawrth.
Fe ddaw'r penderfyniad wedi blynyddoedd o feirniadaeth ddaeth i ben llanw gyda adroddiad damniol yr wythnos ddiwethaf ar gyflwr gofal iechyd meddwl ar ward Tawel Fan yn ysbyty Glan Clwyd.
Dyma adroddiad gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke.