Faint o Gymry sydd yn y Gaiman?
Ym Mhatagonia, mae'r dathliadau wedi dechrau ar ddiwrnod Gŵyl y Glaniad - 150 o flynyddoedd ers i'r Cymry cyntaf gyrraedd y Wladfa.
Breuddwyd Michael D Jones oedd sefydlu Gwladfa ym Mhatagonia er mwyn gwarchod iaith, crefydd a thraddodiadau Cymru.
Mewn taith ar hyd y stryd sy'n arddel enw Michael D Jones yn y Gaiman, Juan 'Sion' Davies sy'n egluro sawl un o'r teuluoedd sy'n siarad Cymraeg yno ganrif a hanner yn ddiweddarach.