Trydedd ysgol ddwyieithog i'r Wladfa

Mae'r gwaith o adeiladu trydedd ysgol ddwyieithog y Wladfa wedi dechrau ym mynyddoedd Yr Andes.

Bydd lle i 200 o blant gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Sbaeneg ar ôl i Ysgol y Cwm gael ei chwblhau.

Er bod Llywodraeth talaith Chubut wedi addo arian ar gyfer yr ysgol newydd, Cymdeithas Gymraeg Trevelin sydd wedi talu am bopeth hyd yma.

Cydlynydd y Cynllun Dysgu Cymraeg ym Mhatagonia, Clare Vaughan sy'n egluro wrth Rhodri Llywelyn am arwyddocâd yr adeilad.