Swyddfa'r Post: Camgymeriadau'n debygol

Mae Swyddfa'r Post wedi cydnabod ei bod hi'n annhebygol fod is-bostfeistr o Fôn gafodd ei garcharu am dwyll, wedi dwyn yr arian.

Mae Noel Thomas yn un o 150 o is-bostfeistri sy'n dweud iddyn nhw gael eu herlyn ar gam - oherwydd trafferthion hefo system gyfrifiadurol.

Yn ôl dogfen sydd ym meddiant y BBC, mae Swyddfa'r Post bellach yn dweud ei bod hi'n debygol mai camgymeriadau achosodd i'r arian ddiflannu o gyfri Swyddfa'r Post yn y Gaerwen.

Adroddiad Sion Tecwyn.