Robotiaid môr yn casglu gwybodaeth

Mae par o robotiaid arloesol wedi'u lansio ar daith unigryw i gasglu delweddau o fywyd morol oddi ar arfordir Sir Benfro.

Mae'r prosiect, sydd wedi'i ddisgrifio fel dechrau cyfnod newydd mewn gwaith ymchwil morol, yn bartneriaeth rhwng y National Oceanography Centre ag elusen WWF.

Bydd y peiriannau yn treulio mis yn casglu data, ac yn cael eu llywio gan wyddonwyr yn Southampton a Portsmouth drwy gyswllt lloeren.

Roedd ein gohebydd ni Steffan Messenger ym Mhorthladd Aberdaugleddau i wylio'r robot gynta'n cael ei lansio, ac fe siaradodd â Richard Nosworthy o elusen WWF.