Cerddoriaeth Gymraeg angen croesawu technoleg

Mae BBC Cymru wedi clywed nad oes dyfodol i'r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg oni bai bo'r dechnoleg ddiweddara'n cael ei defnyddio.

Daw'r rhybudd gan brif weithredwr Sain, a hynny wrth i'r cwmni ddatblygu ap newydd er mwyn ffrydio cerddoriaeth - rhywbeth yn debyg i 'Spotify', ond yn benodol ar gyfer cerddoriaeth o Gymru.

Ond mae rhai artistiaid amlwg yn amheus. Gwenllian Glyn sydd â'r stori.