Teulu yn sôn am eu trallod
Yn Llys y Goron Abertawe mae dyn o Giliau Aeron wedi ei garcharu am bum mlynedd a chwe mis am achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal ac am yrru dan ddylanwad alcohol. Fe fydd yn rhaid i Gareth Entwhistle dreulio hanner y ddedfryd dan glo.
Bu farw Miriam Elen Briddon, o Cross Inn, ger Cei Newydd, ar ôl i'w char gael ei daro gan gar Entwhistle ar yr A482 ger Ciliau Aeron ar 29 Mawrth, 2014.
Yn wreiddiol, roedd Entwhistle wedi gwadu'r cyhuddiad ond fe newidiodd ei ble fis Gorffennaf eleni.
Mae teulu Miriam, oedd yn 21 oed, wedi bod yn sôn wrth raglen Newyddion 9 am eu trallod o orfod aros blwyddyn a hanner i Entwhistle gael ei ddedfrydu.