Cerddorfa Gymreig y BBC yn paratoi am Dde America
Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar fin dechrau ei thaith gyntaf erioed i Dde America.
Dros gyfnod o dair wythnos, bydd y gerddorfa'n perfformio cyngherddau yn yr Ariannin, Chile ac Uruguay. Hon fydd taith fwyaf uchelgeisiol y gerddorfa hyd yn hyn.
Y gerddorfa fydd yr un broffesiynol gyntaf erioed i deithio i'r Wladfa ym Mhatagonia, lle bydd rhai aelodau o'r gerddorfa yn cynnal cyfnod preswyl o wythnos i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r gymuned.
Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau BBC Cymru, Huw Thomas, aeth i weld y gerddorfa'n ymarfer cyn y daith.