Beth nesa' i Guto Harri?

Wedi i Guto Harri gyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd fel Cyfarwyddwr Cysylltiadau News UK ddiwedd y flwyddyn, bu'n esbonio ei benderfyniad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru.

Fe ymunodd gyda'r cwmni papurau newydd sy'n darparu'r Sun, Times a Sunday Times dair blynedd yn ôl, ar ôl bod yn gyfarwyddwr materion allanol Maer Llundain Boris Johnson.

Wrth siarad â Dylan Jones fore Mercher, dywedodd Guto Harri mai ei ddewis e oedd gadael News UK.

"Fy job i o'dd mynd yno i adfer enw da'r cwmni a sicrhau bod pobl yn gweld y cwmni am yr hyn yw e, sef cwmni cynhyrchu papurau newydd.

"Nawr bod y papurau yn siarad drostyn nhw'u hunain, does 'na ddim angen nid jyst Guto Harri yn benodol, ond rhywun yn y swydd hon ar y lefel 'nathon nhw ddod fi fewn iddo fe.

Wrth gael ei holi am y dyfodol, dywedodd nad oedd ganddo gynlluniau penodol.

"Dwi ddim yn gwybod. Ma' sawl person 'di awgrymu yn garedig bod angen i mi gael sgwrs gyda nhw. Fi 'di cymryd sawl her eitha' anodd yn y gorffennol, felly byddai rhywbeth 'chydig bach llai dadleuol yn newid braf.

Gofynnodd Dylan iddo a oedd ein gyn gyflogwr, Boris Johnson, wedi cysylltu â fo.

"Dwi'n siarad â Boris yn fynych iawn," meddai. "Mae 'na sawl peth i ddod cyn yr her fawr nesa' iddo fe. Gawn ni weld!"