TB: Undeb yn mynegi pryder
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhybuddio y gallai cynlluniau i gyhoeddi mapiau ar-lein o'r buchesi sydd wedi eu heintio â TB fygwth diogelwch eu haelodau.
Mae llywodraeth Cymru yn dweud ei bod nhw yn bwriadu rhoi gwybodaeth ar ei gwefan sydd ddim yn mynd "yn groes i ofynion Deddf Diogelu Data 1998 a Chonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol."
Mae yna ymateb chwyrn wedi bod gan rai ffermwyr ynglŷn â'r bwriad hwnnw.
Yn ôl Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Brian Thomas, mae'r syniad yn bygwth "diogelwch personol" ffermwyr sydd wedi cael gwybod bod y diciâu ar eu gwartheg.
"Mae yna berygl y bydd y bobl anghywir yn cael gafael ar y wybodaeth, does gen i ddim gwahaniaeth os ydy ffermwyr yn cael gwybod ond allan i'r cyhoedd yn gyffredinol ? Na, dim o gwbl," meddai Mr Thomas.
Un sydd yn rhannu pryder Undeb Amaethwyr Cymru ydy Llŷr Gruffydd AC, llefarydd Plaid Cymru ar faterion amaethyddol.
Er yn croesawu'r egwyddor o rannu gwybodaeth â chymdogion ffermydd sydd wedi eu heintio â TB, mae'n anghytuno gyda gosod y wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.
"Mae yna sgôp i gamddefnyddio'r wybodaeth.. mae pobl yn Lloegr wedi cael eu targedu gan ymgyrchwyr lles anifeiliaid ... un awgrym `dwi wedi gwneud yw bod y wybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar wefan Taliadau Gwledig Cymru sydd yn wefan ddiogel"
Un arall sy'n anahpus gyda'r syniad ydi'r cyn brop, y chwaraewr rygbi rhyngwladol John Davies sy'n ffermio yn ardal Boncath.
Mae o wedi colli dros 200 o wartheg i'r haint yn y 10 mlynedd diwethaf.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd ffermwyr yn medru cymryd camau i "amddiffyn eu buchesi."
Dywedodd llefarydd na fydd enw a chyfeiriad ffermwyr yn cael eu cyhoeddi.
Ychwanegodd fod "mwyafrif helaeth" o bobl wnaeth ymateb i ymgynghoriad diweddar yn cefnogi'r syniad o rannu gwybodaeth.