A ddaeth Côr y Cewri o Sir Benfro?

Mae tîm o wyddonwyr wedi cyhoeddi gwaith ymchwil sydd yn awgrymu mai dwy chwarel ym mynyddoedd y Preselau oedd tarddiad rhai o gerrig Côr y Cewri - ond nid pawb sy'n cytuno gyda'u damcaniaeth.

Ers y 1920au mae daearegwyr wedi sefydlu fod rhai o gerrig cylch mewnol Côr y Cewri - neu Stonehenge yn Saesneg - wedi dod o dde orllewin Cymru.

Ond mae'r gwaith ymchwil diweddaraf gan wyddonwyr o Goleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Manceinion, Prifysgolion Bournemouth a Southampton, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn dweud bod y cerrig dan sylw wedi dod o chwareli Carn Goedog a Chraig Rhos-y-felin.

Aeth Aled Scourfield i weld y chwareli drosto'i hun.