'Dim tegwch' i drefnwyr angladdau, medd AC
Mae rhai trefnwyr angladdau yng Ngheredigion wedi galw am newid y drefn sy'n bodoli wrth ymateb i farwolaethau sydyn.
Ar hyn o bryd mae tri chwmni o ymgymerwyr yn casglu cyrff ar ran y crwner pan mae rhywun yn marw'n sydyn, ac yn cael eu talu am bob galwad.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones, wrth BBC Cymru nad oedd y broses yn ddigon tryloyw ac nad oedd digon o degwch i gwmnïau angladdol eraill y sir.
Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu â'r crwner am ymateb.
Gohebydd BBC Cymru Aled Scourfield holodd Ms Jones.