Diwedd oes pwll padlo Parc Victoria?

Rhyw wythnos sydd gan bobl Caerdydd ar ôl i fynegi barn ynglŷn â chynlluniau i ddatblygu un o barciau chwarae'r brifddinas.

Mae'r pwll padlo ym Mharc Victoria, yn Nhreganna, wedi bod yn atyniad poblogaidd ers degawdau lawer.

Ond bydd Cyngor Caerdydd yn troi'r hen bwll yn barc splasio cyn yr haf er bod tipyn o wrthwynebiad.

Mwy gan Rhodri Llwyd.