Dur: 'Angen cefnogaeth' Llywodraeth y DU
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud bod angen "mwy o gefnogaeth" gan Lywodraeth y DU er mwyn diogelu'r diwydiant dur ar gyfer y dyfodol.
Daw ei sylwadau wrth i gwmni Tata gyhoeddi bod 1,050 o weithwyr dur yn colli eu swyddi, gan gynnwys 750 ym Mhort Talbot.
Fe wnaeth Mr Jones feio Llywodraeth y DU am fethu a delio gyda chostau ynni uchel a'r mewnforion rhad sy'n dod i China.
Dywedodd y gallai'r sefyllfa fod wedi ei hosgoi petai gweinidogion San Steffan wedi gweithredu'n wahanol.
Yn siarad ddydd Llun, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb bod Llywodraeth y DU wedi gweithredu i leihau costau ynni i gwmnïau dur, ond bod yr argyfwng byd-eang yn fater llawer mwy.