Diwedd cyfnod i siop recordiau Hag's yn Llambed

Wedi 37 o flynyddoedd yn rhan o fywyd yn Llanbedr Pont Steffan, bydd siop recordiau Hag's yn cau am y tro olaf y mis yma.

Er mai enw Hag Harris sydd ar y siop ers degawdau, nid fe gychwynnodd y busnes - dau ffrind, Dave Bardsley a Pete Smith, ddechreuodd werthu recordiau mewn arwerthiant yn neuadd y Lleng Brydeinig yn Llambed ac aeth Hag i'w helpu.

Fe welodd bod cyfle i wneud arian a phan benderfynodd y ddau arall adael fe gymerodd e'r busnes ymlaen a'i sefydlu fel rhan amlwg o'r dref.

Bu Hag Harris yn siarad am ei atgofion gyda Craig Duggan.