Coleg Cymraeg: 'Angen sefydlogrwydd ariannol'

Mae Cadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi galw am fwy o sefydlogrwydd cyllid i'r corff sy'n hyrwyddo addysg Gymraeg mewn prifysgolion.

Yn ôl Andrew Green, dydi hi ddim yn glir pa effaith gaiff toriad o £11m i'r gyllideb addysg uwch.

Yn y cyfamser, mae Cymdeithas yr Iaith eisiau gweld gwaith y coleg yn ehangu i'r sectorau addysg bellach a galwedigaethol. Aled Scourfield sydd â'r hanes.