Pryder am ddyfodol ralio yng nghoedwigoedd Cymru

Ai'r penwythnos hwn fydd y tro olaf i ralïau gael eu cynnal yn rhai o fforestydd Cymru?

Mae'r cytundeb presennol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a chorff llywodraethu ralio yr MSA yn dod i ben bryd hynny, ac mae'r ddau gorff wedi methu a chytuno ar bris newydd i ddefnyddio'r coedwigoedd.

Wrth i ddeiseb o dros 5,000 o enwau gael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru, mae trefnwyr ralïau'n pryderu am ddyfodol y gamp yma. Aled Scourfield sydd â'r hanes.