Bardd Cenedlaethol newydd eisiau bod yn 'driw' i'w hun

Mae Bardd Cenedlaethol newydd Cymru wedi dweud ei fod yn gobeithio ei fod yn "driw" iddo'i hun ac yn "driw i'r rôl" wrth ddechrau ar y swydd.

Dywedodd Ifor ap Glyn ei fod yn gobeithio parhau gyda gwaith ei ragflaenwyr.

"Mae pawb wedi dod a'i stamp ei hun i'r peth, ond mae 'na olyniaeth," meddai.

Dywedodd hefyd ei fod yn "hynod o bwysig" bod y bardd cenedlaethol yn "siarad gyda Chymry o bob iaith ac yn wir bobl o bob man", ac y byddai'n defnyddio ffurfiau gwahanol i gwblhau hynny.

Huw Thomas oedd yn ei holi.