Geraint Jones o Drefor yn cofio brwydr Mametz
Cafodd 4,000 o filwyr naill eu lladd neu hanafu yn y frwydr i gipio Coedwig Mametz rhwng 7-12 o Orffennaf 1916.
Roedd nifer ohonyn nhw yn Gymry o bob rhan o'r wlad oedd wedi gwirfoddoli ar gyfer yr 38ain Adran (Gymreig) - byddin Lloyd George.
Fe gollodd Geraint Jones o Drefor ddau berthynas ym mrwydr Mametz ar 10 Gorffennaf, 1916.
Bu'n siarad a'n gohebydd ni Aled Scourfield am ei ewythr, Griffith Jones.