Helena Jones, 99 oed, yn cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod

Mae Helena Jones, o Aberhonddu, yn gystadleuydd go arbennig. A hithau bron iawn yn gant oed, bu'n cystadlu ar lwyfan y Pafiliwn yr wythnos hon yng nghystadleuaeth y Llefaru Unigol. Llwyddodd ei pherfformiad i gyffwrdd calonnau'r gynulleidfa a'r ddau feirniad - a daeth mwy o ddagrau i'r llygaid nes ymlaen wrth i bawb yn y Pafiliwn gyd-ganu Pen-blwydd Hapus.

Mwy o'r Eisteddfod ar wefan BBC Cymru Fyw, dolen allanol