Medal Wyddoniaeth i Gymro o Gwm Gwendraeth

Beth sydd gan Charles Darwin, Michael Faraday a Syr Humphrey Davy yn gyffredin?

Nid yn unig roedden nhw'n wyddonwyr byd enwog - ond mae'r tri ymhlith ennillwyr y fedal frenhinol am arloesi yn y byd gwyddonol. Nawr mae Cymro arall yn ymuno â'r rhestr ddethol yma.

Ymhlith cannoedd o wobrau a chydnabyddiaethau'r cemegydd, Syr John Meurig Thomas, mae enwi'r mwyn 'Meurigite' ar ei ôl.

Nawr mae'r Cymro o Gwm Gwendraeth - fu'n feistr ar Goleg Peterhouse, Caergrawnt, yn coroni'r cyfan ac yn ennill clod y byd gwyddonol. Aled Huw aeth i'w gyfarfod yng Nghaergrawnt.