Ymgynghori eto ar ffrwd Gymraeg
Mae disgwyl y bydd Cyngor Powys yn ymgynghori unwaith eto gyda phobl Aberhonddu ar ddyfodol y ffrwd Gymraeg yn ysgol uwchradd y dre.
Mae'r cyngor eisiau cau'r ffrwd fis Awst nesa' a chanoli addysg Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt. Ond ar ôl i'r sefyllfa gael ei thrafod droeon yn barod, mae disgwyl i ymgynghoriad arall ddechrau'n fuan.
Adroddiad Craig Duggan.