Trefniant newydd ar gyfer ralio
Mae'n ymddangos bod dyfodol ralio ceir yng Nghymru yn fwy diogel.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru y byddant yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros baratoi'r ffyrdd mewn coedwigoedd i gwmni preifat di-elw unwaith y bydd y trefniadau terfynol mewn lle.
Bydd trefnwyr y raliau'n delio'n uniongyrchol gyda'r cwmni, a fydd na ddim cost na thaliad i Gyfoeth Naturiol Cymru.
Gobaith cefnogwyr y gamp yw y bydd hynny yn arwain at drefn well o baratoi'r fforestydd ar gyfer y rasys.
Adroddiad Craig Duggan ar Newyddion 9.