Flog o Efrog Newydd
Yn ddiweddar fe symudodd yr actores Sioned Wyn i Efrog Newydd gyda'i gŵr, Rhodri. Mae'r ddau bellach yn gyfrifol am Grŵp Cymry Efrog Newydd ac fe gafodd eu digwyddiad cyntaf ei gynnal ym mwyty Cantre'r Gwaelod, neu'r Sunken Hundred, ar ddechrau'r mis.
Tan yn ddiweddar, roedd Sioned yn chwarae rhan Kim yn yr opera sebon Rownd a Rownd, ond mae hi bellach yn mwynhau dogfennu ei bywyd yn America ar ffurf blog fideo, neu 'flog'.
"I lenwi fy amser, gan 'mod i ddim yn cael gweithio ar y funud (mae permit gwaith yn cymryd pedwar mis i'w brosesu), nes i ddechrau creu fideos bach yn rhannu be' oeddan ni'n weld ac yn brofi allan yma, a'u gyrru nhw at Mam a rhai o'n ffrindiau," eglurai Sioned.
"Ar ôl derbyn geiriau caredig am faint oedd pawb yn mwynhau'r fideos, nes i benderfynu eu postio nhw ar YouTube, dolen allanol i rannu efo'r byd. Ers gwneud, mae'r diddordeb wedi cynyddu yn sylweddol ac yn denu gwylwyr dros y byd.
"Mae bywyd yma yn dra gwahanol i adra' ym mhob ystyr - y prysurdeb, y pobl a'r bwrlwm. Ond 'da ni'n teimlo'n ofnadwy o ffodus o'r cyfle yma ac yn mynd i wneud y mwya' ohono. 'Da ni'n cario Cymru yn agos iawn i'n calonna'."