Cynllun hydro Bethesda: esbonio sut mae'n gweithio

Mae cynllun newydd wedi dechrau ym Methesda er mwyn helpu teuluoedd dalu am bŵer sy'n dod fwy neu lai yn uniongyrchol o brosiectau ynni adnewyddadwy yn eu hardal leol.

Mae'r trydan yn cael ei gynhyrchu o gynllun hydro ar yr afon Berthen a'r nod ydy torri biliau cwsmeriaid a lleihau allyriadau carbon.

Keith Jones o'r Ymddiriedolaeth yng Nghymru sydd yn esbonio sut mae'r hydro, sydd yn Nhyffryn Ogwen yn gweithio.