Owain Fôn Williams: Y golwr a'i gelf

I garfan pêl-droed Cymru roedd y cyfnod ar ôl pencampwriaeth Euro 2016 yn gyfle i ymlacio, ac i edrych 'nôl ar eu llwyddiant.

Ond i'r gôl-geidwad, Owain Fôn Williams, roedd cyffro'r haf yn Ffrainc wedi ei ysbrydoli yn ei ddiddordeb arall, arlunio.

Yn ei gartref yn Inverness, lle mae o'n chwarae i dîm Caledonian Thistle, mae Williams wedi cwblhau llun o'i argraffiadau o'r cyfnod. Teleri Glyn Jones aeth yno i glywed mwy.