Cysegru Joanna Penberthy'n Esgob Tyddewi

Cafodd esgob benywaidd cyntaf yr Eglwys yng Nghymru ei chysegru mewn seremoni yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Mae Joanna Penberthy yn olynu Wyn Evans yn Esgob Tyddewi a chafodd ei chysegru yng Nghadeirlan Llandaf.

Disgrifiodd Archesgob Cymru, Barry Morgan, yr achlysur fel "digwyddiad hanesyddol".