Baw ci yn atal gemau ar gaeau Cyngor Caerdydd
Mae baw ci yn gallu bod yn bla yn ein cymunedau, o gefn gwlad i ganol trefi a dinasoedd.
Ond yng Nghaerdydd mae trigolion Pontcanna wedi cael hen ddigon ar ôl i gêm rygbi'r tîm lleol orfod cael ei hatal pedair gwaith gan fod baw ci ar y cae chwarae.
Er i'r cyngor osod rhagor o arwyddion a biniau arbennig, mae'r broblem yn parhau - fel yn nifer o bentrefi a threfi Cymru.
Janet Ebenezer aeth i glywed mwy ar ran Newyddion 9.