'Cyfnod heriol' i gynghorau ddarparu gofal cymdeithasol

Mae yna rybudd bod cynghorau Cymru'n wynebu cyfnod heriol wrth geisio ariannu gofal cymdeithasol, a hynny yn ystod un o'r adegau economaidd anoddaf yn eu hanes.

Mae deddf newydd yn rhoi rhagor o ddyletswyddau gofal i gynghorau ac yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fe fydd hi'n anodd dod o hyd i'r arian i dalu am y rheiny mewn cyfnod o gyni.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae awdurdodau lleol yn cael mwy o arian am y tro cynta' ers dros dair blynedd.

Owain Evans fu'n clywed am brofiad Gwenda Morgan wrth iddi hi ofalu am ei gwr ers blynyddoedd.