'Aiff cyfraniad Joseph Parry fyth yn angof'

Mae ymgyrch wedi dechrau er mwyn adfer bedd y cyfansoddwr a'r cerddor Joseph Parry.

Cafodd y gŵr o Ferthyr Tudful, sydd yn adnabyddus am gyfansoddi Myfanwy a'r emyn-dôn Aberystwyth, ei gladdu ym mynwent Eglwys Sant Awstin (St Augustine) ym Mhenarth yn 1903.

Ymhlith y digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal bydd cymanfa ganu dan arweiniad Alun Guy. Mae'n dweud na fydd cyfraniad Jospeh Parry yn mynd yn angof.